Croeso i Wefan Cyngor Cymuned Troed-yr-aur
Y Cymuned
Croeso i wefan Cyngor Cymuned Troed yr Aur. Lleolir y gymuned yn ne Ceredigion gan gynnwys pentrefi Brongest, Bwlch-y-groes, Capel Cynon, Coed y bryn, Croes-lan, Ffostrasol, Maesllyn, Penrhiw-pâl a Rhydlewis.
Amaeth yw prif gynhaliaeth yr ardal wledig hon. Mae’n ardal o harddwch naturiol gyda nifer uchel o’r trigolion yn siaradwyr Cymraeg
Y Cyngor Cymuned
Mae 11 o aelodau yn gweithio’n wirfoddol ar y Cyngor.
Cynhelir y cyfarfodydd yn Neuaddau Pentrefi Coed-y-bryn, Ffostrasol a Rhydlewis yn eu tro, ar y nos Fawrth gyntaf yn y mis, ac eithrio mis Awst. Mae pob cyfarfod yn cychwyn am 7.30 p.m. oni nodir yn wahanol.
Mae’r Cyngor yn cyflogi clerc.
Ein Cynghorydd Sir ydy’r Cyng. Maldwyn Lewis.
.png)