Cyngor Bro Troed-yr-aur badge

Troed‑yr‑aur
Community Council

12/10/2023

Cefnogaeth i gofnodi profiadau pobl hŷn o wasanaethau Meddygon Teulu

Mae sut mae pobl hŷn yn cael gafael ar wasanaethau meddygon teulu yn broblem ers tro byd, ac mae fy ngwaith ymchwil diweddar wedi canfod bod dros 40% o bobl hŷn yn llai tebygol o geisio cael apwyntiad meddyg teulu neu gysylltu â meddyg teulu y tu allan i oriau oherwydd bod adroddiadau am y pwysau sydd ar y GIG. 
 
Mae’r ffaith bod rhai gwasanaethau wedi newid i fod yn rhai digidol, boed hynny ar-lein neu dros y ffôn, wedi bod yn ddefnyddiol i rai pobl ond wedi creu rhwystrau i bobl eraill, yn enwedig pobl sydd wedi’u hynysu a heb neb wrth law i’w helpu. 
 
I ddysgu mwy am y mathau o broblemau a heriau sy’n wynebu pobl hŷn wrth gael gafael ar wasanaethau meddygon teulu, rydw i’n gwahodd pobl hŷn i rannu eu profiadau gyda mi drwy lenwi arolwg syml.
 
Byddwn yn ddiolchgar petaech yn gallu rhannu’r arolwg hwn er mwyn fy helpu i gyrraedd cynifer o bobl hŷn â phosibl ledled Cymru.
 
https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=9SJHvtNackSvux4AKfY7NyjFt2n7cj1LrDfSmrEB4YFUOVZDTjVUWUk3NkFMUlVYVFVNSzlYQzZFTi4u
 
Bydd yr arolwg ar gael tan ddiwedd mis Tachwedd 2023. 
 
Gellir llenwi’r arolwg drwy ddefnyddio’r dolenni uchod NEU drwy lawrlwytho a llenwi’r ddogfen Word sydd ynghlwm a’i hanfon i ask@olderpeople.wales dros e-bost, neu ei dychwelyd ar ffurf copi caled i:
 
RHADBOST RTHR-HYZC-RRAX
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Adeiladau Cambrian
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FL
 
Os ydych chi eisiau copi caled drwy’r post, cysylltwch â ni ar 03442 640 670 neu anfon e-bost i ask@olderpeople.wales
 
Diolch i chi ymlaen llaw am eich cymorth.
  
Heléna Herklots CBE
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Download the Survey in Word
Lawrlwythwch yr Arolwg