08/03/2021
Seiberdroseddu: Nid yw bellach yn fater o 'os'. Mae bellach yn fater o 'pryd'.
Nid yw Seiberdroseddu yn cydhabod unrhyw ffiniau, ac nid oes angen i'r troseddwr fod yn agos at eich safle mwyach i ddwyn oddi wrthych. Maent ar ôl eich data a'ch gwybodaeth bersonol.
Peidiwch â'i gwneud hi'n hawdd iddyn nhw. Mewn bywyd go iawn, yr ydym yn cymryd gofal i atal pobl rhag dwyn oddi wrthym. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn gwneud yr un peth yn y byd seiber hefyd.
Drwy ddilyn rheolau 'seiberddiogelwch diogel' syml, byddwch yn ei gwneud yn llawer anoddach i'r troseddwr 'hacio' eich cyfrif neu ddwyn eich data.
Mae'n siwr ein bod yn gwybod llawer o'r wybodaeth eisoes, ond oni bai ein bod yn ei wirio ac yn cadw golwg arno, yrydym yn ei gwneud yn hawdd i'r troseddwr.
-
Cadwch gyfrinair cryf ac unigol ar gyfer cyfrif e-bost bob amser (peidiwch â defnyddio'r cyfrinair hwn ar unrhyw gyfrif ar-lein arall).
-
Defnyddiwch ddilysu dau ffactor os yw gwefan yn darparu'r cyfleuster (mae testun SMS neu'n well fyth, sy’n ddilysydd ar-lein)
-
Os oes gennych unrhyw amheuon peidiwch ymateb i e-bost – ffoniwch y person neu'r cwmni (gan ddefnyddio rhif rydych chi'n ei adnabod, neu wedi'i gael drwy ddull y gellir ymddiried ynddo – cefn cerdyn banc ac ati)
-
Defnyddiwch Reolwr Cyfrinair ar eich ffôn i gadw cofnod o gyfrineiriau – mae Dashlane am ddim ac hefyd LastPass. (Mae gan y ddau nodwedd premiwm y gellir eu huwchraddio os oes angen)
-
Peidiwch â chlicio ar ddolen mewn e-bost oni bai eich bod yn gwybod y gallwch ymddiried ynddo. Yn aml, gall y ddolen edrych yn iawn, ond gellir yn hawdd ffugio'r cyfeiriad gwe y mae'n mynd iddo (Dylech bob amser hofran dros y ddolen a fel arfer bydd y cyfeiriad gwe gwirioneddol yn ymddangos)
-
Yn aml, nid oes gan ffonau iPhones nac Android na thabledi (iPads ac ati) borwyr gwe soffistigedig, felly nid yw hofran dros ddolenni e-bost bob amser yn gweithio.
-
Mae gwefannau ffug i’w cael – mae rhai wedi'u clonio o wefannau gwreiddiol (mae PayPal yn aml wedi'i glonio) felly darllenwch gyfeiriad yr URL yn y bar uchaf bob amser a gwnewch yn siŵr ei fod yn dweud https am unrhyw beth ariannol. Teipiwch yr URL rydych chi'n gwybod ei fod yn wir – www.paypal.com
-
Wrth ddefnyddio bancio electronig, peidiwch byth â thalu'r swm llawn i dalwr newydd rydych newydd ei sefydlu drwy fancio ar y rhyngrwyd / apiau. Awgrymir eich bod yn talu £1 ac yna ffonio / gwirio bod y talai wedi derbyn yr arian. Gallwch bob amser golli £1, ond mae unrhyw beth mwy na hynny'n brifo!
-
Cofiwch - Os yw bargen yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae fel arfer!
-
Dim ond os yw'n cael ei ddiweddaru y mae Meddalwedd Gwrth-Firws yn dda.
-
Ni fydd meddalwedd Gwrth-firws yn eich amddiffyn rhag eich gweithredoedd eich hun – felly meddyliwch cyn i chi glicio
-
Ni fydd Banciau, DVLA, CThEM byth yn anfon e-bost atoch yn gofyn am arian yn uniongyrchol – ffoniwch y rhif ar eich cerdyn banc bob amser wrth ddelio â'r banc.
-
Ni fydd unrhyw asiantaeth llywodraeth yn gofyn i chi dalu am arian sy'n ddyledus mewn talebau/cardiau iTunes, Steam, One4all neu Amazon.
Isod mae dolenni i adnoddau defnyddiol ar-lein...
(Gan mai neges atal/amddiffyn twyll yw testun yr e-bost hwn, byddwn yn argymell eich bod yn hofran pwyntydd y llygoden dros bob dolen i sicrhau ei fod yn eich cyfeirio at yr un cyfeiriad gwe ag y mae'r testun yn ei awgrymu.)
-
Take 5 to stop fraud:
https://takefive-stopfraud.org.uk/ -
Dealing with suspicious emails, phone calls and text messages
https://www.ncsc.gov.uk/guidance/suspicious-email-actions -
Too smart to be scammed – take the 5 minute test:
https://quiz.takefive-stopfraud.org.uk/ -
Parent Zone:
https://parentzone.org.uk/ -
Barclays
https://digital.wings.uk.barclays/for-everyone/digital-safety -
National Cyber Security Centre:
https://www.ncsc.gov.uk/section/information-for/individuals-families -
Action Fraud:
https://www.actionfraud.police.uk/ -
Get Safe Online has a very good selection of advice:
https://www.getsafeonline.org/
Egwyddorion Da:
Stopiwch: Cymerwch funud i feddwl cyn gwahanu gyda'ch arian neu wybodaeth - gallai eich cadw'n ddiogel.
Heriwch: A allai fod yn ffug? Mae'n iawn ymatal, gwrthod neu anwybyddu unrhyw geisiadau. Dim ond troseddwyr fydd yn ceisio eich rhuthro neu greu panig.
Diogelwch: Cysylltwch â'ch banc ar unwaith os ydych chi'n meddwl eich bod wedi dioddef sgam a rhowch wybod i'r Heddlu amdano.
Rhoch wybod am negeseuon e-bost amheus i: report@phishing.gov.uk
Gallwch hefyd roi gwybod am neges-destunau amheus drwy anfon y neges wreiddiol ymlaen i 7726, sy'n sillafu SPAM ar eich bysellbad.
Ni fydd yr heddlu, na'ch banc, byth yn gofyn i chi dynnu arian yn ôl na'i drosglwyddo i gyfrif gwahanol. Ni fyddant byth yn gofyn i chi ddatgelu eich cyfrinair bancio llawn na'ch PIN.
Peidiwch â chlicio ar ddolenni nac atodiadau mewn testunau neu negeseuon e-bost annisgwyl neu amheus.
Cadarnhau bod ceisiadau'n ddilys drwy ddefnyddio rhif hysbys neu gyfeiriad e-bost i gysylltu â sefydliadau'n uniongyrchol.
Rhowch wybod i Heddlu Dyfed Powys:
https://www.dyfed-powys.police.uk/en/contact-us/report-an-incident/ or call 101
Lawrlwytho: Sgam Phishing Facebook
Lawrlwytho: Taflen Cadw'n Ddiogel Heddlu Dyfed Powrs
Download: Awareness Facebook Phishing
.png)